Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn cynnwys cyfweliadau gyda phobl ifanc 10-15 oed. Mae’r data a gasglwyd yn yr Arolwg Troseddu yn cael ei ddefnyddio gan adrannau fel y Swyddfa Gartref, er mwyn deall lefelau trosedd ymhlith y grŵp oedran hwn. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio er mwyn cynorthwyo’r gweithwyr proffesiynol hyn i weithio tuag at leihau trosedd yn erbyn pobl ifanc.
Bydd y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn cael tystysgrif i ddiolch iddynt am gymryd rhan.
Mae clywed barn a phrofiadau pobl ifanc yn bwysig er mwyn gallu mynd i’r afael â rhoi diwedd ar droseddau yn eu herbyn. O ganlyniad i'r arolwg hwn, rydym wedi canfod gwybodaeth newydd bwysig iawn am bobl ifanc a throsedd. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod pobl ifanc rhwng 10 a 15 oed yn fwy tebygol o ddioddef trosedd dreisgar nag oedolion. Ni fyddai’r canfyddiad hwn wedi dod i'r amlwg fel arall.
Mae’r arolwg i bobl ifanc 10-15 oed yn llawer iawn byrrach na’r arolwg i oedolion - mae’n para tua 20 munud. Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau am brofiadau o drosedd, yfed alcohol, defnyddio cyffuriau, gweithgaredd ar-lein, diogelwch ar-lein a bwlio.
Mae modd ymatal rhag ateb unrhyw gwestiwn, a chaiff yr holl wybodaeth bersonol ei chadw’n gwbl gyfrinachol. Nid yw enwau na chyfeiriadau’n cael eu storio gyda’r data.
Yn dilyn y cyfweliad, mae pobl ifanc sy’n cymryd rhan, a’u rhiant/rhieni neu warchodwr/warchodwyr, yn cael sgôr risg y plentyn, yn seiliedig ar yr atebion a roddodd y plentyn am ei ymddygiad ar-lein. Nid yw’r sgôr risg yn cynnwys unrhyw ateb penodol y plentyn. Gellir darllen rhagor o wybodaeth yma.
Gofynnir am ganiatâd gan riant neu warcheidwad bob amser cyn cynnal unrhyw gyfweliad gydag unrhyw un rhwng 10 a 15 oed.
Mae taflen wybodaeth Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r arolwg yn ei gynnwys, a sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio.
Mae rhan o’r arolwg sy’n cael ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth gan blant yn gofyn iddynt am eu defnydd o'r we, a sut maent yn ymddwyn ar-lein. Mae’n cynnwys cwestiynau am y math o bethau maent yn ei wneud ar-lein, ac a ydynt wedi cael unrhyw brofiad negyddol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys pynciau fel rhannu gwybodaeth bersonol a chwrdd â dieithriad ar-lein, yn ogystal â bwlio ar-lein. Mae plant sydd rhwng 13 a 15 hefyd yn cael cwestiwn ynglŷn ag anfon neu dderbyn negeseuon rhywiol.
Rydym yn cyfrifo sgôr risg isel, canolig, neu uchel ar gyfer pob rhan yn y modiwl. Yr adrannau hyn yw: bwlio ar-lein, siarad â phobl ddiarth, cwrdd â phobl ddiarth, ac ar gyfer pobl ifanc 13 i 15 oed, anfon a derbyn delweddau o natur rywiol. Mae derbyn sgôr risg uchel ym mhob un o’r rhannu hyn yn cael ei gymryd fel y sgôr risg cyffredinol ar gyfer eich plentyn.
Ar ôl y cyfweliad, byddwn yn ysgrifennu at riant/gwarchodwr y plentyn yn nodi sgôr risg y plentyn.
Mae’r sgôr hwn yn seiliedig ar y math o ymddygiad ar-lein sy’n cael ei drafod yn yr arolwg, ac ni all gyfeirio at unrhyw ymddygiad neu weithgaredd arall sydd ddim yn cael ei drafod yn yr arolwg. Mae’r sgôr yn ddibynnol ar yr atebion a roddwyd gan y plentyn, ac efallai na fydd yn cwmpasu pob agwedd o’u gweithgarwch ar-lein.
Os hoffech chi weld y cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn yr arolwg pobl ifanc 10-15 oed, gallwch lwytho’r holiadur cyfan i lawr yma.
Os hoffech weld y cwestiynau a ddefnyddir yn y Mesur Risg Ymddygiad Ar-lein, gallwch lawrlwytho'r cwestiynau graddio risg yma.
Galli di siarad â chwnsler am unrhyw beth sy’n peri pryder i ti
Website: www.childline.org.uk
Tel: 0800 1111
I gael cymorth a chyngor ar sut i aros yn ddiogel ar-lein
Website: www.thinkuknow.co.uk
Neu ffonia Childline ar 0800 1111
Yn darparu cymorth a chyngor ar unrhyw faterion yn ymwneud â chyffuriau
Website: www.talktofrank.com
Tel: 0300 1236600 neu tecstia 82111
I gael cymorth a chyngor os wyt yn cael dy fwlio
Website: www.antibullyingpro.com/support-centre
Neu ffonia Childline ar 0800 1111
I gael cymorth a chefnogaeth i rieni am ddiogelwch ar-lein
Website: www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/keeping-children-safe/online-safety
Tel: 0808 800 5000
I gael gwybodaeth am sut i helpu’ch plentyn aros yn ddiogel ar-lein
Website: www.thinkuknow.co.uk
I gael gwybodaeth am sut i helpu’ch plentyn aros yn ddiogel ar-lein
Website: www.internetmatters.org